Bythynnod Pwllgwilym yng Nghanolbarth Cymru.
Troswyd Bythynnod Gwyliau Hunanddarpar Pwllgwilym ger Llanfair-ym-muallt yn chwaethus o hen Ysgubor y fferm yn 2006. Maen nhw wedi’u trosi’n draddodiadol gan gadw’r hen drawstiau a’r waliau cerrig ac ychwanegu lloriau llechfeini.
Mae’r bythynnod ddwy filltir o Lanfair-ym-muallt ym mhentref hyfryd Cilmeri, ym Mhowys, Canolbarth Cymru, gyda 60 erw o ffermdir glas a golygfeydd ysblennydd o’u hamgylch.
Mae’r Ysgubor yn cynnwys 3 bwthyn mawr â 4 seren, lle mae rhwng 4 a 19 o bobl yn gallu cysgu. Mae pob bwthyn wedi’i ddodrefnu’n gyfforddus i roi naws bwthyn, gyda dodrefn pren pinwydd yn yr ystafelloedd gwely a chyfleusterau cegin da, ac maen nhw wedi’u gwresogi. Mae yna gyfleusterau barbeciw nwy gyda phob bwthyn, dodrefn awyr agored, a digonedd o le i barcio.
Mae’r llety pedair seren yn cynnwys:
- Bwthyn ‘DAN-Y-COED’ – Â lle i 4 o bobl gysgu a chyfleusterau i bobl anabl.
- Bwthyn ‘TYCANOL’ – Â lle i 8 o bobl gysgu, gyda soffa gysgu yn y lolfa. Twb poeth.
- Bwthyn ‘PWLLYN’ – Â lle i 7 o bobl gysgu, gyda soffa gysgu yn y lolfa. Twb poeth.
Mae modd agor drysau rhwng y bythynnod i greu un bwthyn mawr â lle i 19 o bobl gysgu. Yn ddelfrydol ar gyfer teuluoedd mawr i dreulio’r Nadolig neu’r Flwyddyn Newydd.
Mae yna olchdy/ystafell sychu i’w rhannu, gyda pheiriant golchi, sychdaflwr a sinc.
Rydyn ni o fewn cyrraedd ar droed i’r dafarn leol a’r orsaf reilffordd yng Nghilmeri. Rydyn ni’n agos at Faes y Sioe Frenhinol, argaeau Cwm Elan a chwrs golff 18 twll rhagorol. Mae yna lawer o weithgareddau eraill hefyd ar gael yn lleol, gan gynnwys beicio mynydd, pysgota, merlota a cherdded ym Mannau Brycheiniog. Mae yna hefyd lawer o leoedd da i fwyta yn yr ardal, sy’n gweini cynnyrch lleol.